Rôl Arweiniol Llywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig wrth osod y cyfeiriad, wrth ddatblygu polisi mewn meysydd sy’n bwysig i Gymru, ac wrth arwain yn gadarn ac yn glir ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru. Mae wedi gwneud hyn drwy Ddatganiad Polisi Caffael Cymru, sy’n rhestru deg o egwyddorion clir ac yn amlinellu’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan gyrff y sector cyhoeddus a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau gwell canlyniadau drwy gaffael. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio arwain drwy esiampl lle bynnag y bo hynny’n bosibl, ac mae wedi mabwysiadu nifer o’r polisïau a’r dulliau o gaffael a geir yn y Datganiad fel rhan o'i brosesau caffael ei hun.

Datganiad Polisi Caffael Cymru

Cyhoeddwyd Datganiad Polisi Caffael Cymru am y tro cyntaf yn 2012, a hynny gan y Gweinidog Cyllid ar y pryd. Cyhoeddwyd y Datganiad ar ei newydd wedd yn 2015, er mwyn i’r egwyddorion ynddo gyd-fynd â’r newidiadau i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. Nodwyd mai’r bwriad hefyd oedd i’r Datganiad gyd-fynd â gofynion Deddf Llesiant

Cenedlaethau’r Dyfodol, a oedd newydd gael ei phasio. Ymrwymodd y sector cyhoeddus yng Nghymru i gydymffurfio â Datganiad Polisi Caffael Cymru, gan gydnabod bod hwnnw’n gosod cyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael yng Nghymru. Mae'r sector wedi ymrwymo yn y fath fodd drwy greu llythyrau ffurfiol ac/neu drwy gymeradwyo’r Datganiad yn y Bwrdd Caffael.

Ceir isod grynodeb o effaith pob un o egwyddorion Datganiad 2015, ynghyd â'r cynnydd a wnaed gyda’r rheini:

Strategol

Mae’r Datganiad yn nodi y dylai gwaith caffael gael ei gydnabod a’i reoli fel swyddogaeth gorfforaethol strategol sy’n trefnu a deall gwariant; sy’n dylanwadu ar y gwaith cynnar o gynllunio a threfnu gwasanaethau ac sy’n cyfrannu at y broses benderfynu er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion cyffredinol.

Er mwyn helpu i gyflawni hyn, rhoddodd Llywodraeth Cymru raglen o Wiriadau Ffitrwydd

Caffael ar waith yn 2014, a’i chyflwyno mewn 31 o sefydliadau. Rhoddodd Llywodraeth Cymru gymorth i alluogi’r sefydliadau i roi sylw i gynlluniau gwella a oedd wedi deillio o’r adolygiadau. Ar ôl ymgysylltu â rhanddeiliaid yn 2015, datblygwyd dull newydd o gynnal adolygiadau, a hwnnw wedi’i seilio ar hunanasesiadau. Treialwyd y dull hwn ymhlith nifer bychan o gyrff cyhoeddus. Ar 21 Medi 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid bod rhaglen newydd i adolygu gallu bellach yn cael ei datblygu, law yn llaw â’r adolygiad o’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru. Mae Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Gaffael Cyhoeddus yn argymell defnyddio’r Gwiriadau Ffitrwydd mewn ffordd fwy cyson, gyda gwell canllawiau a gwaith dadansoddi gan Lywodraeth Cymru. Drwy gydweithio, y bwriad yw y bydd modd cynnal y gwiriadau hyn mewn ffordd newydd drwy gyflwyno rhaglen newydd ar gyfer caffael.

Adnoddau Proffesiynol

Mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo safon fyd-eang y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi fel fframwaith y dylai cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru ei ddefnyddio er mwyn helpu i ddatblygu gallu proffesiynol a rhoi trywydd i unigolion ei ddilyn wrth ddatblygu sgiliau a gwneud cynnydd yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Yn sgil prosiect Defnyddio Doniau Cymru Cronfa Gymdeithasol Ewrop, a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2015, cafwyd 38 o hyfforddeion caffael newydd, a fu’n helpu amryw o sefydliadau i arbed dros £7 miliwn.

Effaith Economaidd, Gymdeithasol ac Amgylcheddol

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arweiniad a chyfeiriad clir i sicrhau effeithiau ehangach, cadarnhaol yn sgil caffael. Mae cyrff cyhoeddus wedi cael eu hannog i fabwysiadu’r diffiniad ehangach o ‘Werth’ yn unol â Datganiad Polisi Caffael Cymru, gan osgoi rhoi contractau ar sail y pris yn unig. Mae Gwerth Cymru wedi datblygu cyngor a chanllawiau am bolisi yn y maes hwn i gyd-fynd ag egwyddorion y Datganiad, ac mae'r rhain ar gael yn gyhoeddus yn y Canllaw Cynllunio Caffael – mae canllawiau penodol ar gael yn y meysydd polisi pwysig hyn:

Y Cod Ymarfer

Mae’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017, yn sicrhau bod gweithwyr sy’n ymwneud â chontractau cyhoeddus yn cael eu trin yn deg ac yn cael telerau teg, ac mae’n rhoi sylw i faterion fel caethwasiaeth fodern, y cyflog byw a hunangyflogaeth ffug. Mae disgwyl i bob sefydliad sy’n cael cyllid cyhoeddus, boed yn uniongyrchol neu drwy grantiau neu gontractau, ymrwymo i’r Cod.

Neilltuo Contractau

Llywodraeth Cymru oedd y weinyddiaeth gyntaf i achub ar y cyfle i neilltuo contractau ar gyfer gweithdai cysgodol. Roedd y nifer a fanteisiodd ar y trefniadau hyn yn siomedig, a’r argraff o hyd yw nad yw trefniadau neilltuo o’r fath yn rhoi cystal gwerth am arian â'r hyn a geir drwy gystadleuaeth ar y farchnad agored. Er mwyn annog mwy i neilltuo contractau, mae Llywodraeth Cymru’n arwain gwaith i greu eglurder ynghylch pwy sy’n gymwys, ac mae’n gweithio gyda Busnes Cymdeithasol Cymru i wella’r wybodaeth am y farchnad ar gyfer y sector cyhoeddus a’r ochr gyflenwi.

Swyddi Gwell yn Nes Adref

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar ein rhaglen Swyddi Gwell yn Nes Adref – rhaglen sy’n canolbwyntio ar gydlynu ystod o ymyriadau polisi, ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, er mwyn defnyddio caffael cyhoeddus i greu swyddi a chynnig hyfforddiant yn ein cymunedau tlotaf. Mae’r rhaglen yn rhan o'n cynllun gweithredu ‘Ein Cymoedd Ein Dyfodol’ ac mae pedair rhaglen beilot ar waith, sef modelau o ymyriadau masnachol y gellid, os byddant yn llwyddiannus, eu cyflwyno mewn mannau eraill.

Adnodd Dadansoddi Gwariant Atamis

Er mwyn deall yn well sut y gellir gwireddu potensial caffael cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwasanaeth dadansoddi gwariant i’r sector cyhoeddus, a hwnnw’n cael ei gyllido’n ganolog. Credwyd ei bod yn bwysig i sefydliadau allu cael y wybodaeth ddiweddaraf, a hynny’n rheolaidd, am wariant rhanddeiliaid. Yn eu plith y mae sefydliadau unigol yn y sector cyhoeddus a’r rhai sy’n rhan o Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, Gwerth Cymru, a’r Grŵp Digidol a Data. Ers mis Awst

2015, drwy’r darparwr gwasanaeth presennol, mae gwaith wedi mynd rhagddo gyda’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a sefydliadau ledled Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a sicrhau bod pobl yn gallu gweld y wybodaeth honno.

Mae’r gwasanaeth wedi golygu bod modd gweld a dadansoddi data am wariant caffael mewn ffordd ddiogel, a hynny’n rhoi mwy o wybodaeth am nifer o ddangosyddion gwariant pwysig. Mae’r data hwn am wariant wedi helpu i greu cyfleoedd i gaffael ar y cyd mewn categorïau o bwys. Mae hefyd wedi helpu i ddatblygu a chynllunio strategaethau caffael ac ateb gofynion sy’n deillio o bolisïau a rhaglenni ehangach fel Swyddi Gwell yn Nes Adref a’r agenda datgarboneiddio. Mae’r gwaith wedi mynd rhagddo’n gadarnhaol ac wedi bod yn llwyddiannus wrth gyflawni ei amcanion, yn bennaf yn sgil maint y data am wariant sy'n cael ei gasglu gan sefydliadau.

Wrth ymateb i adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru ar Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn adolygu ei ganllawiau ar gyfer sut i ymwneud â'r prosiect dadansoddi gwariant. Mae gwahoddiad wedi’i roi i’r sector addysg bellach i ymwneud â’r gwaith hwn, ac rydym yn edrych ar gyfleoedd i gynnwys cyrff a noddir. Y bwriad yw y bydd crynodeb o’r gwir wariant drwy ei Fframweithiau yn cael ei gynnwys yn Adroddiadau Blynyddol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

Cyflwyno Cynnig ar y Cyd

Mae dulliau arloesol fel ein canllawiau i gyflwyno cynnig ar y cyd yn helpu i sicrhau bod contractau cyhoeddus yn cael eu creu mewn ffyrdd sy’n ei gwneud yn rhwydd i gonsortia gynnig amdanynt, ac mae hefyd yn helpu busnesau bach a chanolig eu maint i oresgyn yr heriau sy’n eu hwynebu wrth geisio ennill contractau cydweithredol gwerth uchel gan y sector cyhoeddus. Contractau yw’r rhain na fyddent yn gallu cystadlu amdanynt ar eu pennau’u hunain. Yn ystod 2017, mae data GwerthwchiGymru yn dangos bod gan 25% o’r holl hysbysiadau contractau a hysbysebwyd ar GwerthwchiGymru dic yn y blwch sy’n dangos bod y tendrau yn addas ar gyfer cynigion gan gonsortia (928 o’r 3599 o hysbysiadau).

Cosbrestru

Llywodraeth Cymru oedd y weinyddiaeth gyntaf i fod yn gadarn ynghylch cosbrestru, ac roedd y Nodyn Cyngor Caffael a ddatblygwyd yn rhoi eglurder yr oedd ei wir angen ar brynwyr ynghylch pryd y gellid gwahardd cyflenwyr a oedd yn ymwneud â chosbrestru. Mae defnyddio’r Nodyn hwn drwy Gymru wedi cael effaith gadarnhaol ar y diwydiant.

Manteision Cymunedol

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth ac arweiniad er mwyn galluogi sector cyhoeddus Cymru i sicrhau’r gwerth mwyaf o gaffael drwy sicrhau manteision cymunedol. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n hwyluso cyfres o gynlluniau peilot sy’n ceisio sicrhau manteision cymunedol, gan alluogi cyrff cyhoeddus i wreiddio egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eu prosesau caffael. Mae Cymuned Ymarfer yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn ar gyfer swyddogion yn y sector cyhoeddus sydd â diddordeb mewn sicrhau manteision cymunedol neu sy’n cyfrannu at y gwaith hwnnw. Rydym wedi datblygu adnoddau i hyrwyddo’r modd y sicrheir Manteision Cymunedol, ac er mwyn cymell hynny. Bydd modiwl e-ddysgu newydd ar Fanteision Cymunedol yn cael ei lansio yn gynnar yn 2018, a bydd hwn yn helpu i ddatblygu gallu ac yn hyrwyddo’r maes ymhellach.

Cystadleuaeth Agored, Hygyrch

Mae’n hanfodol i gyflenwyr bychain a chwmnïau’r trydydd sector bod y cyfleoedd i gael contractau cyhoeddus yn agored ac yn hygyrch, ac mae Datganiad Polisi Caffael Cymru yn ei gwneud yn ofynnol hysbysebu pob contract sy’n werth dros £25k ar GwerthwchiGymru.

Hysbysiadau Gwerth Isel

Mae nifer yr hysbysiadau am gontractau gwerth isel a hysbysebir ar GwerthwchiGymru (h.y. y rhai sydd o dan drothwy’r OJEU - Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd - ac yn fwy tebygol o gael eu hennill gan gwmnïau'r trydydd sector a chyflenwyr llai o Gymru) wedi cynyddu o 80% o’r holl hysbysebion a gyhoeddwyd yn 2015-16 i 84% yn 2016-17. Mae hyn wedi golygu bod nifer y contractau gwerth isel sydd wedi’u hennill gan fusnesau o Gymru wedi cynyddu o 50% yn 2015-16 i 55% yn 2016-17.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi argymhelliad Swyddfa Archwilio Cymru y dylai hyrwyddo gwell defnydd o’r SQuiD (Cronfa Ddata Gwybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr) a bydd yn creu arolwg i ganfod y defnydd a wneir o’r gronfa a pha gymorth pellach y mae ei angen er mwyn iddi ennill ei phlwyf.

Prosesau Safonol Syml

Mae nifer o gamau wedi’u cymryd er mwyn helpu i sicrhau bod prosesau caffael yn agored ac yn hygyrch, a hynny ar sail dulliau safonol a'r defnydd o systemau cyffredin sy’n lleihau cymaint ag y bo modd ar gymhlethdod, costau, amser a’r gofynion i gyflenwyr.

Y Gwasanaeth eGaffael (ePS)

Daeth rhaglen y Gwasanaeth eGaffael, a oedd yn cael ei chyllido’n ganolog, i ben ar 31 Mawrth 2017. Roedd y rhaglen hon yn cynnwys ystod o wasanaethau eGaffael (tendro, masnachu a thaliadau electronig), a chymorth i helpu gyda’r newid hwn ac i alluogi pobl i ddefnyddio’r dechnoleg. Roedd modd i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru ddefnyddio’r gwasanaethau a’r cymorth a oedd ar gael i helpu gyda’r newid yn rhad ac am ddim. Er i’r rhaglen ddod i ben yn ffurfiol ar 31 Mawrth 2017, mae contractau’n dal i fodoli tan fis Ionawr 2019 a gall cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru barhau i ddefnyddio’r dechnoleg yn rhad ac am ddim tan hynny. Mae cyngor wrthi’n cael ei baratoi er mwyn argymell sut y dylid bwrw ymlaen ar ôl i’r contractau ddod i ben.

Cyfrifon Banc Prosiectau

Er mwyn rhoi sylw i’r problemau y mae cwmnïau bach yn aml yn eu hwynebu yn sgil taliadau hwyr, arweiniodd Llywodraeth Cymru y gwaith o gyflwyno Cyfrifon Banc Prosiectau. Mae hyn yn sicrhau bod isgontractwyr yn cael eu talu'n brydlon ac mewn ffordd deg, ac mae’n gwella’r berthynas rhwng gwahanol bartïon yn y gadwyn gyflenwi.

Cydweithio

Roedd Datganiad Polisi Caffael Cymru yn ei gwneud yn ofynnol rhoi sylw ar y cyd i feysydd gwariant cyffredin, a hynny gan ddefnyddio dulliau a manylebau wedi'u safoni, a'r rheini o dan reolaeth y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Y nod oedd lleihau dyblygu, denu’r ymateb gorau gan y farchnad, gwreiddio egwyddorion y Datganiad Polisi hwn er budd

Cymru, a rhannu adnoddau ac arbenigedd. Ers ei greu, mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, law yn llaw â Gwerth Cymru, wedi gallu sicrhau cynnydd wrth ymelwa cymaint ag y bo modd ar werth caffael yn yr ystyr ehangaf. Gwnaed hyn drwy gynyddu nifer y cyflenwyr o Gymru, a chwmnïau bach a chanolig eu maint yn enwedig, sy’n ennill contractau cyhoeddus, a thrwy wreiddio Datganiad Polisi Caffael Cymru ym mhrosesau caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru. Drwy’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gallu manteisio ar gydweithio wrth gaffael, ac mae’r prosesau hynny wedi’u datblygu a’u cyflwyno yng Nghymru er budd Cymru.

Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cydnabod yr heriau sy’n bodoli wrth gydweithio ar gaffael, ac mae’n cydnabod pa mor anodd yw ateb anghenion pob sefydliad. Mae’n werth cofio bod y cydweithio gorau drwy’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn digwydd yn y meysydd hynny lle mae gan sefydliadau staff penodol sy’n gyfrifol am y meysydd dan sylw. Ar y cyfan felly, mae modelau cydweithio ym meysydd ynni, fflyd, staff asiantaeth a TGCh wedi arwain at atebion llwyddiannus ac wedi golygu bod modd rhoi adborth a gwella’n rheolaidd.

Ymgysylltu â Chyflenwyr ac Arloesi

Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru yn annog deialog â chyflenwyr i helpu i gael y gorau o’r farchnad, i hysbysu ac addysgu cyflenwyr, ac i sicrhau’r gwerth gorau am arian. Er mwyn rhoi hwb i hyn, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Gwasanaeth Gwrando ar Gyflenwyr er mwyn galluogi cyflenwyr i fynegi pryderon a rhoi adborth am gaffael cyhoeddus yng Nghymru. Drwy roi un pwynt cyswllt i gyflenwyr, gall tîm annibynnol a diduedd fynd i’r afael yn effeithiol â phroblemau gyda chaffael cyhoeddus (tîm datblygu polisi a gallu Gwerth Cymru sy’n rheoli’r Gwasanaeth Gwrando ar Gyflenwyr, ac mae’n annibynnol ar yr awdurdodau contractio).

Mae’r Gwasanaeth Gwrando wedi cael ei hyrwyddo ymhlith busnesau ac awdurdodau contractio. Rydym yn cymryd camau i hysbysebu’r gwasanaeth yn ehangach ymhlith cyflenwyr, er enghraifft drwy ofyn i awdurdodau ei hysbysebu a rhoi dolen ar eu gwefannau.

Datblygu a Gweithredu Polisi

Ers lansio fersiwn 2015 o Ddatganiad Polisi Caffael Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi helpu'r sector cyhoeddus yng Nghymru gyda'u prosesau caffael cyhoeddus drwy ddatblygu ystod o gynlluniau polisi sydd wedi canolbwyntio ar faterion sy’n bwysig i Gymru. Mae canllawiau a chyngor am bolisi wedi'u datblygu a’u cyhoeddi ar ffurf Nodiadau Cyngor Caffael, a hynny ym meysydd Manteision Cymunedol, Cyfrifon Banc Prosiectau, Cosbrestru, y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, Ymgeisio ar y Cyd, Cefnogi Cyrchu Dur mewn Prosiectau Adeiladu a Seilwaith Mawr, Taliadau Ambarél, Cytundebau

Fframwaith, Cytundebau Fframwaith Tybiannol, Neilltuo Contractau, diweddariad SQuiD (Cronfa Ddata Gwybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr), y Cod Ymarfer Diwygiedig ar Faterion y Gweithlu, ac Adnoddau eGaffael. 

Mesur ac Effaith

Fel atodiad i Ddatganiad Polisi Caffael Cymru, ceir ystod o ddangosyddion sy’n ceisio mesur effaith y Datganiad a helpu i ddatblygu aeddfedrwydd wrth gaffael ledled Cymru. Datblygwyd y rhain drwy gynnal trafodaeth â rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus, ond am sawl rheswm, nid yw pawb wedi’u mabwysiadu.

Datganiad Polisi Caffael Cymru – y casgliadau

Fel y nodwyd yn y ddogfen hon, mae’r broses o fabwysiadu egwyddorion Datganiad Polisi Caffael Cymru, a hynny’n eang, wedi cael effaith gadarnhaol mewn nifer o feysydd pwysig, ac mae hyn wedi arwain at fudd uniongyrchol i Gymru. I grynhoi:-

Mae cyflenwyr wedi cael budd: Mae symleiddio’r broses gaffael a sicrhau bod contractau’n agored ac yn hygyrch wedi golygu bod y gwariant sy’n mynd i gyflenwyr o Gymru wedi parhau ar lefel o tua 50% mewn sectorau allweddol fel adeiladu, ac mae mabwysiadu egwyddorion y Datganiad Polisi yn golygu bod dros 70% o’r contractau mawr a roddir drwy GwerthwchiGymru bellach yn mynd i gontractwyr o Gymru.

Mae economi a dinasyddion Cymru wedi cael budd: Mae'r polisi Manteision Cymunedol yn helpu i drechu tlodi yn ardaloedd tlotaf Cymru, gan sicrhau bod arian a gaiff ei wario yng Nghymru yn aros yng Nghymru, a rhoi cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl ddifreintiedig.

Mae rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus wedi cael budd: Mae Gwerth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd ac arweiniad clir i gyrff y sector cyhoeddus i’w galluogi i sicrhau’r canlyniadau cadarnhaol mwyaf posibl o’r prosesau caffael. Drwy’r Gwiriadau Ffitrwydd Caffael, ynghyd â chymorth ariannol, roedd modd i gyrff y sector cyhoeddus wella eu gallu a meincnodi eu hunain ochr yn ochr â sefydliadau eraill.

Mae gweithwyr sy’n gweithio ar gontractau cyhoeddus wedi cael budd: Mae polisïau fel y Cod ar Gyflogaeth Foesegol, Cosbrestru a Thaliadau Ambarél wedi helpu i sicrhau bod pobl yn cael eu cyflogi mewn ffordd deg a moesegol yn is i lawr cadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus.

Mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi dechrau creu cyfres o adroddiadau sy'n edrych ar astudiaethau achos er mwyn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth am yr hyn y mae’n ei wneud i greu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig eu maint.

Y 'Rhaglen ar gyfer Caffael' a'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adolygu ffitrwydd trefniadau caffael cyrff cyhoeddus unigol ac i hyrwyddo e-gaffael

Bydd y Rhaglen ar gyfer Caffel yn cael ei chwblhau’n llawn drwy’r broses adolygu a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ym mis Medi 2017. Yn y cyfamser, bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i roi arweiniad a chymorth i alluogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau’r gwerth gorau o gaffael.

Bydd Gwerth Cymru yn parhau i reoli’r gwaith o greu polisi, monitro arferion, cefnogi a chynghori gweithwyr proffesiynol, datblygu’r proffesiwn caffael, a galluogi sefydliadau i gydymffurfio â rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd. Bydd yn cyflawni’r gwaith hwn gydag ac ar ran pawb sy’n gwario arian ar nwyddau a gwasanaethau yn sector cyhoeddus Cymru (gan gynnwys Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol).

Mae Gwerth Cymru wedi cytuno gyda chwsmeriaid ar raglen interim o brosiectau polisi a gallu yn hyn o beth. Bydd yn bwrw ymlaen â'r rhaglen waith hon wrth i’r adolygiad fynd rhagddo, a chyn cyflwyno’r Rhaglen ar gyfer Caffael yn llawn. Mae’r prosiectau sydd ar y gweill yn cynnwys:

        Rhaglenni peilot sy'n ymwneud â Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (gan roi sylw i adnoddau cymorth safonol; caffael bwyd; plastig a phecynnu; a hyfforddiant);

        Polisi a chymorth ar gyfer datgarboneiddio;

        Rhaglenni peilot Swyddi Gwell;

        Rhaglen beilot ar yr Economi Gylchol;

        Datblygu rhaglen newydd ym maes gallu, gan gynnwys dull newydd o gynnal gwiriadau ffitrwydd caffael; a

        Datblygu diffiniad newydd o werth caffael sy’n cyd-fynd â Ffyniant i Bawb a’r Cynllun Gweithredu Economaidd.

Bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn parhau i greu a rheoli contractau a fframweithiau ar gyfer y pethau cyffredin y mae’r rhan fwyaf o sefydliadau yn eu prynu. Mae gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gynlluniau ar gyfer gwaith yn y dyfodol ac mae’n bwriadu cyflwyno’r contractau a’r fframweithiau hyn a fydd yn cael eu rhoi ar waith ar y cyd â’r 73 o sefydliadau sy’n gwsmeriaid iddo yng Nghymru.

Bydd Gwerth Cymru hefyd yn cynnal y berthynas sydd ganddo i drafod materion polisi caffael gyda Llywodraeth y DU; yn cyfrannu o safbwynt polisi at broses Brexit yng nghyd-destun caffael; yn cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch effaith polisi caffael a pholisi masnachol; ac yn rheoli comisiynau corfforaethol Llywodraeth Cymru.

Materion sy’n ymwneud â recriwtio a chadw gallu caffael allweddol

Mae cryn ymwybyddiaeth o'r gwerth y gall gallu caffael a gallu masnachol cryf ei roi i sefydliadau, yn rhai cyhoeddus a phreifat ill dau. Mae hyn wedi arwain at alw mawr am adnoddau a all fod yn brin mewn rhannau o Gymru neu mewn sectorau penodol. Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gaffael cyhoeddus yn cydnabod bod angen edrych ar effaith cyflogau gwahanol i staff mewn gwahanol sectorau. Mae presenoldeb asiantaethau mawr Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd ag adrannau masnachol a chaffael cryf, wedi cynyddu'r pwysau ar sector cyhoeddus Cymru, yn sgil y telerau cyflogaeth gwell sy'n cael eu cynnig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae GIG Cymru wedi dweud wrth y Bwrdd Caffael yn y gorffennol bod y materion hyn yn achosi pryder. Mae cwsmeriaid wedi dweud eu bod yn dymuno gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen ar gyfer gallu caffael yn y dyfodol, ac efallai y gellid dod o hyd i ffordd o ystyried a datblygu atebion ar y cyd i’r argymhelliad hwn.

Mae’r Rhaglen ar gyfer Caffael yn cynnwys elfen newydd sy'n ymwneud â Gallu ac Arweiniad, a honno'n benodol yn ceisio gwella gallu caffael a phroffesiynoldeb drwy holl sector cyhoeddus Cymru.

Pa mor effeithiol yw trefniadau llywodraethu cenedlaethol, hefyd yng nghyd-destun datganiad diweddar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (21 Medi 2017) a chynlluniau Llywodraeth Cymru i uno Bwrdd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a’r Bwrdd Caffael Cenedlaethol.

Bu gan Gwerth Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol lefelau amrywiol o lywodraethu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Bwrdd Caffael wedi rhoi’r lefel uchaf o lywodraethu ar gyfer gweithredu a darparu polisi caffael cyhoeddus drwy Gymru, gan adrodd yn uniongyrchol i Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am Gaffael. Mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn atebol i’r rhanddeiliaid sy’n aelodau ohono am ei berfformiad, a hynny drwy Fwrdd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol sy’n rhoi cyfeiriad strategol a Grŵp Cyflenwi’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol sy’n rhoi cyfeiriad gweithredol. 

Bydd y modd y caiff caffael ei lywodraethu yn cael ei adolygu fel rhan o’r broses o addasu rôl y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru, fel y cyhoeddwyd yn y Datganiad Ysgrifenedig a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 21 Medi 2017.

Effaith a pha mor effeithiol yw’r trefniadau i gydweithio ar gaffael drwy’r prif gonsortia caffael yng Nghymru a’r sefydliadau prynu cyhoeddus, gyda ffocws penodol ar rôl a datblygiad y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

Rhoddwyd sylw i hyn o dan yr adran am ‘Gydweithio’ ar dudalen 5. Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2013, yn rhoi ffocws i gydweithio ar gaffael drwy holl sector cyhoeddus Cymru, gan sicrhau arbedion a gwreiddio polisi Gwerth Cymru yn ei waith. Yr egwyddor yw prynu unwaith yn unig i Gymru. Er mwyn i hynny gael effaith a llwyddo, rhaid i bob sefydliad ddefnyddio'r Gwasanaeth ar gyfer y categorïau lle ceir gwariant ar yr un pethau dro ar ôl tro.

Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cydnabod yr heriau sy’n bodoli wrth gydweithio ar gaffael, ac mae’n cydnabod pa mor anodd yw ateb anghenion pob sefydliad. Mae hefyd yn argymell y dylid gwneud rhagor o waith i hyrwyddo’r defnydd o Fframweithiau’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac i ddangos manteision y rhain, ac mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyflwyno proses newydd i sicrhau eglurder ynghylch y broses pan fydd sefydliadau am gael eu heithrio o’r trefniadau hyn.

Barn am adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru ym mis Hydref 2017 ac ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2017.

Rydym yn falch bod Swyddfa Archwilio Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cyfraniad caffael tuag at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i Gymru. Rydym yn croesawu casgliadau’r adroddiadau ar Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ill dau. Mae’r argymhellion yn y naill adroddiad ar llall wedi cael eu derbyn; byddant o gymorth mawr wrth ddatblygu ar y cynnydd a wnaed hyd yma, ac maent yn amserol iawn wrth addasu rôl Gwerth Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, fel y cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 21 Medi 2017. Mae gwaith yn mynd rhagddo i roi sylw i’r argymhellion yn y ddau adroddiad, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus, busnesau a phartneriaid cymdeithasol. Er hwylustod, mae copïau o ymatebion Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 6 Tachwedd 2017 ac 14 Rhagfyr wedi’u hatodi isod:-